Auditions (Cymraeg)
Sut i glyweld ar gyfer Live Music Now
Mae ein proses clyweliadau byw yn sicrhau ein bod yn cynnal y safonau uchaf o gyflenwi.
Cynhelir dyddiau clyweliadau ar draws y DU. Gwiriwch y calendr yma am y dyddiadau i ddod. Mae LMN yn dethol ei gerddorion, fel unawdwyr neu grwpiau (fel rheol hyd at 5 person) o amrediad eang o draddodiadau a diwylliannau cerddorol. Gall cerddorion yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd perfformio ac sy'n preswylio yn y DU ac Iwerddon ymgeisio. Rhaid derbyn ceisiadau am glyweliadau o leiaf 6 wythnos cyn dyddiad y clyweliad er mwyn iddyn nhw gael eu hystyried.
- I ofyn am gais, cwblhewch y ffurflen ar-lein yma
- Fe fydd Gillian Green, Cyfarwyddwraig Clyweliadau yn anfon ffurflen atoch. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os nad ydych wedi derbyn y ffurflen gais o fewn wythnos i ofyn am un, e-bostiwch auditions@livemusicnow.org
- Anfonwch eich ffurflen a'ch ffi clyweliad yn ôl dim hwyrach na 6 wythnos cyn dyddiad y clyweliad
- Unwaith y byddwch wedi gwneud cais, fe fydd staff Cangen LMN yn cysylltu â chi gyda gwahoddiad i fynychu perfformiad LMN, cyn y clyweliad.
Fel rheol mae cerddorion sy'n ymuno ag LMN wedi cwblhau eu hyfforddiant cerddorol uwch ac yn dechrau sefydlu eu hunain fel perfformwyr proffesiynol. Maent fel rheol rhwng 20 a 30 oed ac yn dymuno ehangu a datblygu eu sgiliau cerddorol ac allgyrraedd.
Does dim rheolau pendant ac rydym yn edrych ar bob achos unigol wrth iddo godi. Ar y cyfan fe fyddem yn disgwyl i chi aros ar y cynllun am 4 blynedd o leiaf ar ôl i chi gael eich derbyn drwy glyweliad, a dim mwy na 6 blynedd. Ond, unwaith eto rydym yn hyblyg wrth ystyried achosion arbennig.
Yn y clyweliadau caiff cerddorion eu hasesu gan banel o gerddorion adnabyddus ac arbenigwyr gwâdd mewn ystod eang o feysydd cerddorol. Mae eu dealltwriaeth o ofynion y cynllun yn sicrhau bod y safonau uchaf yn cael eu cynnal. Fe fyddan nhw'n chwilio am:
- safon uchel iawn o allu cerddorol
- dewis amrywiol ac addas o gerddoriaeth
- sgiliau cyflwyno da a thystiolaeth o allu i sefydlu perthynas gyda chynulleidfa
- ymrwymiad i amcanion Live Music Now
Mae'r rhan fwyaf o berfformiadau LMN yn cael eu cynnal yn y dydd yn ystod yr wythnos. Dylai eich ymrwymiadau eraill eich galluogi i fod ar gael yn ystod y cyfnodau yma er mwyn i chi allu derbyn gwaith LMN. Dylai cerddorion o dramor sy'n preswylio yn y DU sicrhau bod ganddyn nhw fisa dilys sy'n eu galluogi i dderbyn gwaith cyflogedig. Fe ddylai yna fod isafswm o 18 mis cyn dyddiad dirwyn i ben y fisa.
Er mwyn talu ei gostau mae LMN yn codi ffi cymhedrol fesul cerddor, ar adeg y clyweliad.
Am ragor o wybodaeth am y broses clyweliadau, gwyliwch y ffilm fer yma.