Transforming Communities

Trosiadau Cymysg: Ymchwilio i broses a chanlyniadau ymyriadau cerdd – Yr Athro Raymond MacDonald

Cerddoriaeth Fyw Nawr yn y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol – 16 Tachwedd 2015

Yr Athro Raymond MacDonald, Pennaeth Cerddoriaeth, Athro Seicoleg a Byrfyfyr Cerddoriaeth, Prifysgol Caeredin y DU.

Rhoddodd yr Athro MacDonald drosolwg o faterion ymchwil sy’n berthnasol wrth ddefnyddio cerddoriaeth mewn cyd-destunau gofal iechyd gyda phobl hŷn. Trafodwyd y cwestiwn sylfaenol sut a pham y gall cerddoriaeth wella lles. Cyflwynwyd enghreifftiau penodol o ddulliau ansoddol a meintiol. Cymharwyd astudiaethau sy’n defnyddio dulliau gwrando ar gerddoriaeth ag astudiaethau sy’n mabwysiadu dull cyfranogi cerddoriaeth. Defnyddiwyd yr enghreifftiau hyn i helpu i nodi ffyrdd y gellir datblygu fframweithiau damcaniaethol a methodolegol cadarn i arwain gwaith yn y maes hwn yn y dyfodol.

Bywgraffiad

Mae Raymond MacDonald yn Bennaeth Cerdd ac yn Athro Seicoleg a Byrfyfyr Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caeredin. Mae wedi cyhoeddi dros 70 o bapurau ac wedi cyd-olygu pum testun Musical Identities (2002) a Musical Communication (2005) Music Health and Wellbeing (2012) a Musical Imaginations (2012) The Handbook of Musical Identities (yn y wasg). Mae ei ymchwil barhaus yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â gwaith byrfyfyr, seicoleg cerddoriaeth, iechyd a lles cerddoriaeth, hunaniaethau cerddorol ac addysg gerddoriaeth.

Fel sacsoffonydd a chyfansoddwr mae ei waith yn cael ei lywio gan olwg ar fyrfyfyr fel proses gymdeithasol, gydweithredol ac unigryw greadigol sy’n darparu cyfleoedd i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio’n gerddorol. Gan gydweithio â cherddorion fel Evan Parker, David Byrne, Jim O’Rourke a Marilyn Crispell, mae wedi rhyddhau dros 50 o CDs ac wedi teithio a darlledu ledled y byd.