Transforming Communities

All Together Now, Birmingham

Cynhaliwyd All Together Now, clwb cerdd ar gyfer teuluoedd ag anghenion arbennig, yn y mac (Canolfan Gelf Canolbarth Lloegr), Birmingham rhwng mis Chwefror a mis Tachwedd 2012.

Dyfeisiwyd y prosiect peilot hwn mewn ymateb i rwystredigaeth rhieni ynghylch y diffyg cyfleoedd i deuluoedd plant ag anghenion arbennig fwynhau’r un digwyddiad cerddorol gyda’i gilydd. Roedd cerddorion Live Music Now yn arwain sesiynau cerdd misol wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer teuluoedd, lle roedd yr holl ymatebion i’r gerddoriaeth yn cael eu croesawu a’u hannog. Yn y ffilm fer isod, mae’r trefnwyr (Sharon Hopwood, rhiant lleol, a Jayne Allen, Rheolwr Prosiect LMN) yn siarad am bŵer cerddoriaeth i dynnu pobl at ei gilydd a phwysigrwydd dull rhyngweithiol LMN wrth hyrwyddo buddion therapiwtig cerddoriaeth fyw.

“Mae’r sesiynau All Together Now yn tynnu pob un o fy mhlant i’r foment ac yn rhoi rhyddid iddyn nhw fod pwy ydyn nhw. Rwy’n dod i ffwrdd yn teimlo’n ysbrydoledig ac yn hapus ac felly hefyd fy mhlant. Diolch.” Rhiant

Ariannwyd y prosiect gan grant Gwobrau i Bawb gan Gronfa’r Loteri Fawr, ynghyd â grantiau gan Ymddiriedolaeth Grantham Yorke ac Elusen Baron Davenport.

I gael gwybodaeth ar sut y gallwch chi helpu i ariannu prosiectau All Together Now yn y dyfodol, cysylltwch â Karen Irwin yn [email protected] .