Transforming Communities

Bumper intake of new LMN musicians in Wales

LMN Wales have accepted 17 wonderful musicians (in eight ensembles) onto the scheme. The 2015 auditions, held over two days at the Royal Welsh College of Music and Drama, attracted young professional musicians from a wide range of genres. The musicians, who attended an induction session last week, are looking forward to starting their journey with Live Music Now.

New musician Angharad from folk trio Calan-ish said ''I'm so glad to be accepted on to the Live Music Now scheme as it will help me further develop my career as a musician. I can't wait to receive training and learn more about dementia, autism and other special needs so that I can use my skills as a musician to make a worthwhile difference to people's lives. The work with LMN sounds so rewarding, challenging and enjoyable, and I just can't wait to start!''

LMN Wales Director, Claire Cressey said ‘"We are delighted to welcome eight new ensembles onto our scheme in Wales this year. There is outstanding and diverse talent amongst all of them, but their common bond is passion for the work of Live Music Now – taking high quality live music performances to those who would otherwise miss out on the many health, well-being and life changing opportunities it can offer. We are excited to get them trained up and out on tour with us across Wales."

The induction led by Harriet Earis, LMN alumna, gave the musicians a deeper insight into LMN’s work and what they should expect from the scheme. The musicians had a chance to perform to the group, share and test out repertoire, participation and engagement ideas. They will shortly be completing their 'basic' training and we look forward to working with them in care homes, special schools, hospitals and more, all around Wales and beyond. We wish them the best of luck on the LMN scheme, and hope that they will benefit as much from it as the thousands of people who will hear them perform.

The new LMN Wales ensembles for 2015 include:

  • Folk trio, Calan-ish – who have already been offered the opportunity of a community tour and festival performances at the North Wales International Music Festival.
  • Singer-songwriter John Nicholas,who auditioned as a soloist playing guitar and using loop-pedal.
  • Ellen Williams (soprano) and Rhiannon Pritchard (piano) both grew up in Wales and started worked together during the National Eisteddfod.
  • Olivia Gomez (mezzo-soprano) and Ben Pinnow (piano) met through their work with choirs in South Wales.
  • Tom Smith (tenor) and Ella O’Neill (piano) started working together during their studies at the Royal Welsh College of Music and Drama.
  • Alma Duo, a violin duo who are desk partners at the Welsh National Opera
  • Ada Ragimov, an Israeli musician who plays a selection of classical harp repertoire along with the oriental traditions of Sephardic, Ottoman and Balkan music.
  • Quintet Coch were the largest ensemble accepted at auditions; a brass band quintet who met at the RWCMD and named themselves after the iconic Welsh Castle Coch.

Nifer fawr o gerddorion newydd Live Music Now yng Nghymru

Mae Live Music Now (LMN) Cymru wedi derbyn 17 o gerddorion ardderchog (mewn wyth ensemble) ar y cynllun. Fe wnaeth clyweliadau 2015, a gynhaliwyd dros ddau ddiwrnod yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ddenu cerddorion proffesiynol ifanc o amrediad eang o genres. Mae’r cerddorion, a fynychodd sesiwn anwytho yr wythnos ddiwethaf, yn edrych ymlaen at gael cychwyn eu taith gyda’r mudiad.

Sefydlwyd Live Music Now ym 1977 gan Yehudi Menuhin ac Ian Stoutzker CBE i hyfforddi’r cerddorion ifanc gorau i ddarparu cerddoriaeth i bobl mewn amrediad eang o sefyllfaoedd heriol, yn cynnwys pobl oedrannus mewn cartrefi gofal yn byw gyda dementia, plant mewn ysgolion arbennig, cymunedau gwledig ynysig, ysbytai a rhagor o leoliadau eraill. Cynhelir clyweliadau i gerddorion yn y rhanbarthau bob blwyddyn ac maen nhw’n gweithio ar y cynllun am tua 4 – 5 mlynedd.

Mae cerddorion Cymreig nodedig sydd wedi bod yn rhan o’r cynllun yn cynnwys y pianydd Llŷr Williams a’r Delynores Frenhinol Hannah Stone. Mae cangen Cymru o Live Music Now yn cyrraedd cymunedau ac ysgolion ym mhob sir yng Nghymru a chynhelir dros 200 o wahanol berfformiadau y flwyddyn. Ar draws y DU, mae dros 2 filiwn o bobl wedi elwa oddi wrth weithdai a pherfformiadau rhyngweithiol LMN.

Dywedodd y cerddor newydd Angharad o’r triawd Calan-ish, “Rwyf mor falch o fod wedi cael fy nerbyn ar gynllun Live Music Now gan y bydd yn helpu i ddatblygu fy ngyrfa fel cerddor ymhellach. Rwy’n edrych ymlaen at dderbyn hyfforddiant a dysgu rhagor am dementia, awtistiaeth ac anghenion arbennig eraill er mwyn gallu defnyddio fy sgiliau fel cerddor i wneud gwahaniaeth gwerth chweil i fywydau pobl. Mae’r gwaith gydag LMN yn swnio mor foddhaol, heriol a phleserus, ac rwy’n dyheu i gael cychwyn ar y gwaith!''

Dywedodd Cyfarwyddwraig LMN CymruClaire Cressey  ‘"Rydym yn falch iawn o gael croesawu wyth ensemble newydd ar ein cynllun yng Nghymru eleni. Mae yna ddoniau rhagorol ac amrywiol ymysg pob un ohonyn nhw, ond yr hyn sydd yn gyffredin i bawb ydy eu hangerdd dros waith Live Music Now – gan gyflwyno perfformiadau cerddoriaeth byw o ansawdd uchel i’r rhai na fydden nhw fel arall yn cael manteisio ar y cyfleoedd iechyd, llesiant a newid bywyd y gall ei gynnig. Rydym yn edrych ymlaen at gael eu hyfforddi a’u cyflwyno ar daith gyda ni ar draws Cymru."

Rhoddodd y sesiynau anwytho dan arweiniad alumna LMN, Harriet Earis, ddarlun dyfnach o waith LMN i’r cerddorion a’r hyn y dylen nhw ei ddisgwyl oddi wrth y cynllun. Cafodd y cerddorion gyfle i berfformio i’r grŵp, rhannu a phrofi  eu repertoire a syniadau am gyfranogi ac ymgysylltu. Cyn hir fe fyddan nhw yn cwblhau ei hyfforddiant ‘sylfaenol’ ac rydym yn edrych ymlaen at gael gweithio gyda nhw mewn cartrefi gofal, ysgolion arbennig, ysbytai a lleoliadau eraill o amgylch Cymru a thu hwnt. Dymunwn y gorau iddyn nhw ar y cynllun LMN gan obeithio y byddan nhw yn elwa cymaint o’r cynllun ag y bydd y miloedd o bobl fydd yn eu clywed yn perfformio.

Mae ensembles newydd LMN Cymru ar gyfer 2015 yn cynnwys:

  • Triawd gwerin, Calan-ish – sydd eisoes wedi cael cynnig taith gymunedol a pherfformiadau yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru
  • Canwr –cyfansoddwr John Nicholas, oedd wedi cael clyweliad fel chwaraewr unawdydd gitar yn defnyddio pedal dolen.
  • Ellen Williams (soprano) a Rhiannon Pritchard (piano) y ddwy wedi’u magu yng Nghymru ac wedi dechrau gweithio gyda’i gilydd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol.
  • Olivia Gomez (mezzo-soprano) a Ben Pinnow (piano) y ddau wedi cyfarfod trwy eu gwaith gyda chorau yn Ne Cymru.
  • Tom Smith (tenor) ac Ella O’Neill (piano) a ddechreuodd weithio gyda’i gilydd yn ystod eu hastudiaethau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
  • Alma Duo, deuawd feiolin sydd yn bartneriaid desg yn Opera Cenedlaethol Cymru
  • Ada Ragimov, cerddor o Israel sydd yn chwarae detholiad o repertoire telyn clasurol ynghyd â thraddodiadau dwyreiniol cerddoriaeth Sephardig, Ottoman and Balkan.
  • Quintet Coch oedd yr ensemble mwyaf a dderbyniwyd yn y clyweliadau; pumawd band pres a gyfarfu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac sydd wedi enwi eu hunain ar ôl y castell eiconig, Castell Coch.