Gan Angharad Jenkins
To read this article in English, click here.
Ym mis Mawrth, ar ôl 10 mis o siarad babi, derbyniais fy nhaliad Lwfans Mamolaeth terfynol ac roeddwn yn edrych ymlaen – er braidd yn bryderus – at ddechrau nôl i weithio. Wrth i mi edrych ymlaen at ryddhau albwm a thaith 23 diwrnod ar draws y DU gyda Calan, roeddwn yn meddwl sut deimlad fyddai teithio gyda babi ifanc. Roedd fy meddwl yn llawn o heriau diddyfnu a gofal plant ar y ffordd a’r costau llety a theithio ychwanegol.
“Mae 2020 yn mynd i fod yn flwyddyn fawr i Calan.”
Roedd 2020 yn ymddangos yn flwyddyn addawol i ni fel band. Dechreuodd ar 1 Mawrth gydag un o berfformiadau mwyaf cyffrous fy ngyrfa hyd yn hyn; Calan mewn cyngerdd gyda Cherddorfa Genedlaethol BBC Cymru yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd (llun isod). Roedd perfformio gyda’r gerddorfa yn brofiad trydanol ac yn un na fyddaf byth yn ei anghofio. Ychydig a wyddwn mai hwn fyddai fy mherfformiad cyntaf ac olaf yn 2020.
Roedd sïon am Coronavirus yn yr awyr. Bu’n rhaid i’n peiriannydd sain ein gadael ar y munud olaf oherwydd prawf positif Covid-19 ar ôl dychwelyd o ogledd yr Eidal ar daith gyda Liam Gallagher. Roedd arwyddion yn y toiledau ar sut i olchi eich dwylo’n lân ac, o’r llwyfan, roeddwn yn gweld un rhes o gynulleidfa’r cyngerdd yn barod yn gwisgo mygydau wyneb. Meddyliais, ychydig bach dros ben llestri a dychwelais i fwynhau’r profiad trochgar o chwarae gyda’r gerddorfa.
Gallwn ni, gerddorion, fod yn griw cyffyrddol. Ond nid oedd y rhybuddion Covid fel petaen nhw’n atal hyd yn oed y cydweithwyr pellaf rhag cofleidio a chusanu gan gyfarch ei gilydd ar ddechrau ymarferion a llongyfarch ei gilydd ar ôl perfformiad gwych. Wedi’r cyfan, hwn yw’r gwaith gorau. Mae cerddoriaeth fyw yn ein hel at ein gilydd ac yn darparu egni gwych sy’n uno pawb. Gall anfon adrenalin drwy neuadd gyngerdd gan wneud i ni deimlo’n dda ac yn agos at ein gilydd. Mae’n gynnes a chroesawus ac mae’r cynnwrf yn gwneud i ni deimlo’n fyw!
Roedd y cyngerdd yn dda – cafodd ei ddarlledu ar Radio Wales y BBC a Radio Cymru. Roeddem ar gefn ein ceffylau. Mae geiriau’r arweinydd Grant Llewelyn wedi atseinio yn fy mhen ers hynny “Mae 2020 yn mynd i fod yn flwyddyn fawr i Calan.”
Cyn i’r mesurau cloi daro’r Deyrnas Unedig, roeddem mewn dyled o filoedd o bunnau’n barod.
Deuddydd ar ôl y cyngerdd, aeth Calan i’r UD ar daith tair wythnos. (Am y tro cyntaf yng ngyrfa deng mlynedd Calan, nid oeddwn ar y daith ac arhosais gartref gyda’r un bach). Ond, wrth i newyddion am y pandemig ledaenu, dechreuodd gwyliau ganslo ac nid oedd gan Calan unrhyw ddewis ond dychwelyd adref wythnos yn gynnar.
Roedd oblygiadau costau anferthol i ni fel band. Nid yn unig roeddem wedi colli incwm o sioeau wedi’u canslo, roedd yn rhaid ail-drefnu pedwar hediad traws môr Iwerydd adref. Cyn i fesurau’r cyfnod clo daro’r DU, roeddem yn y coch yn barod o filoedd o bunnau.
Calan ar daith yn yr UD ar ddechrau mis Mawrth 2020
Roedd yn rhaid gweithredu ar fyrder ac felly trefnwyd Ymgyrch Cyllido Torfol i geisio adfer rhai o’n henillion drwy gynnig gwersi ar-lein, albymau wedi’u hyrwyddo a chomisiynu alawon. Siaced amryliw Patrick o India (ynghyd â gwerth blwyddyn o chwys llwyfan go iawn) oedd y brif wobr ar yr anhygoel £400. Neidiodd ein dilynwyr i’n helpu a bu’r ymgyrch yn llwyddiant. Roeddem wedi adennill ein costau.
Ond wedyn, ar ôl dychwelyd i’r DU roedd mwy a mwy o bobl yn dechrau canslo teithiau. Roedd yn edrych yn gynyddol debygol y byddai ein rhai ni i fyny nesaf. Ac yn siwr i chi, ar ôl symud drwy’r wythnos gyntaf o sioeau, fwy neu lai, cefais air gyda’n hasiant ac, yn wir ,bu’n rhaid canslo popeth.
Roedd bron i ddwy flynedd o ymchwil, trefnu, cyfansoddi, ymarfer, recordio, cynllunio, ymgeisio am grantiau, marchnata a hyrwyddo wedi mynd i mewn i’n halbwm newydd Kistvaen – roeddem yn meddwl mai hwn oedd ein gorau eto. Ond mewn amrantiad, roedd yr holl amser a’r gwaith caled wedi bod yn ddiwerth.
Yn sydyn, roedd fy nyddiadur yn wag.
dechrau gohirio tan y flwyddyn nesaf. Yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwyl Rhyng-Geltaidd Lorient, Gwyl Werin yr Amwythig … Bu’n hasiant yn gweithio 24 awr i ail drefnu ein sioeau Ebrill i fisoedd Tachwedd/ Rhagfyr 2020. Ond mewn ychydig wythnosau, roedd y sioeau hynny wedi’u hail drefnu eto ac wedi’u symud i fis Ebrill 2021.
Heblaw am Calan, canslwyd hefyd fy nghyngherddau preswyl LMN mewn cartref gofal yn Nhonyrefail ac ychydig o berfformiadau unigol gyda Cherddoriaeth mewn Ysbytai. Yn sydyn, roedd fy nyddiadur yn wag. Roedd wythnosau a misoedd o ddim yn ymestyn o’m blaen. Ond roedd hyn yn dir cyfarwydd; roeddwn wedi profi hyn adeg fy seibiant mamolaeth. Dim gigs, dim cymdeithasu, dim ond fi a’r babi a’m cymar.
Yn rhyfedd iawn, mae cyfnod mamolaeth wedi fy mharatoi ar gyfer y cyfnod clo. Roeddwn wedi bod yn fy nghyfnod clo babi personol am ddeng mis ac, mewn ffordd, roeddwn yn teimlo fel petai gweddill y byd wedi ymuno â mi. Roeddwn yn teimlo’n llai ynysig. Wrth i’r byd o’m cwmpas ddod i stop, roedd pawb yn dechrau troi at dechnoleg i gysylltu. Am y tro cyntaf ers genedigaeth fy merch, roeddwn yn gallu cyfarfod â ffrindiau i gael diod yng nghlydwch fy nghartref – yn hapus yn gwybod petai fy mabi fy angen, y byddwn i fyny’r grisiau ar unwaith
Roedd fy nghymar ar gyfnod ffyrlo ac felly, ar ôl cael ychydig o amser cyfyngedig i fi fy hun, roeddem yn gallu rhannu dyletswyddau gofal plentyn. Roeddem yn treulio hanner diwrnod bob un yn gwneud ein pethau personol oedd yn rhyddhau amser i mi chwarae a chyfansoddi – ac roedd yr alawon yn llifo allan.
Roedd cyflawni’r Comisiynau Alawon Cyllido Torfol Calan yn rhoi rhywbeth creadigol i mi gael fy nannedd ynddo. Anfonais e-bost at y deg person oedd wedi comisiynu alawon gennyf gan ofyn a oedd ganddyn nhw unrhyw gais arbennig. Roedd y sgyrsiau dilynol a gefais gyda’r bobl hyn dros e-bost yn anhygoel. Dysgais ychydig mwy amdanyn nhw a chlywais rai storïau hyfryd a chyffrous am y bobl yn eu bywydau.
Gofynnwyd i mi gyfansoddi alawon er cof am geraint hoff, i ddathlu pen blwyddi a phen blwyddi priodas mewn cyfnod clo…. Roedd rhai’n gofyn am alawon hapus, ysgafn tra bod eraill eisiau rhywbeth mwy dwys i ymlacio. Gofynnodd un dyn a allwn gyfansoddi cerddoriaeth i’w chwaer sy’n byw yn Pathhead yn Yr Alban. Roedd yn awyddus i gael rhywbeth y gallai wrando arno ac ymlacio ar ôl sifft hir yn Ysbyty Cyffredinol Border ger Caeredin. Dyna oedd yr ysbrydoliaeth i’r alaw Waltz Gweithiwr Allweddol (sydd i’w chlywed yn un o fy fideos LMN).
Mae trigolion cerddorol Pathhead, Yr Alban yn chwarae Waltz Gweithiwr Allweddol Angharad Jenkins
Cyfansoddais yr alaw, ei gyrru ar bapur erwydd ac mewn ychydig ddyddiau cefais neges gan ffrind a thelynores, Corrina Hewat, yn dweud bod pobl Pathhead yn chwarae fy alaw! Roeddwn wrth fy modd. Fel cyfansoddwr, nid oes unrhyw gyffro’n fwy na gwybod bod eich cerddoriaeth yn cael ei chwarae gan eraill. Roeddwn hyd yn oed yn fwy cyffrous i gael gwybod bod Pathhead yn gymuned hynod gerddorol a bod rhai o gerddorion blaenllaw gwerin a jazz yn byw yno. Ychydig wythnosau’n ddiweddarach, roeddwn yn derbyn fideos o eraill yn chwarae’r alaw. Daeth un oddi wrth Michal Poreba ar acordion, un arall oddi wrth Robbie Jessep ar gitâr ac yna un o Pathhead (uchod), o grwp o drigolion – gan gynnwys Martin Green o Lau ar acordion – yn chwarae fy alaw ynghanol y ffordd ar ôl curo dwylo olaf y gweithwyr allweddol am 8 o’r gloch. Ynghanol golau’r awr aur – roedd yn ymddangos ac yn swnio’n anhygoel ac roeddwn yn teimlo’n ostyngedig wrth feddwl bod fy alaw fach wedi teithio a chyrraedd clustiau cynifer o bobl.
Ar adeg ynysu, sylweddolais faint gall cerddoriaeth gyfathrebu a’n cysylltu.
Er bod fy holl gyngherddau byw wedi’u canslo dros y dyfodol gweledol – teimlwn fod pwrpas i mi fel cerddor. Roeddwn i’n gallu cyfansoddi a rhoi rhywfaint o hapusrwydd ym mywydau pobl wedi’r cyfan.
Mae’n gas gen i gyfaddef hyn ond pan oedd y byd yn wynebu bygythiad mor ofnadwy, roedd yr alawon yn llifo. Cefais gomisiwn i gyfansoddi deg, ond roedden nhw’n dal i ddod. Roeddwn i’n dal i gyfansoddi. Roedd y ffidil yn symud o gwmpas y ty gyda fi a’m babi – nid oedd gen i gyfnod hir i chwarae ond byddwn yn cyfansoddi darnau byr yma ac acw. Roedd alawon yn chwyrlio yn fy mhen wrth i mi fwydo’r babi ac wrth i mi fynd i gysgu. Byddwn yn canu wrth fynd am dro bob dydd gan gofnodi darnau o alawon i mewn i’m ffon ac yna’n dod ‘nôl i’w cofnodi.
Roedd yn gyfnod hynod greadigol i mi. Roedd y tywydd yn wych ac er fy mod yn byw ynghanol Abertawe – roedd trafnidiaeth wedi peidio â bod a gellid sylwi ar yr heddwch a’r tawelwch, gan roi lle i gân hyfrytaf yr adar.
Roedd ein byd wedi cyfyngu i filltir sgwâr o gwmpas y ty. Roeddwn yn gwneud yr un daith o gwmpas y parc bob dydd gyda fy merch. Gan ei bod yn profi Gwanwyn yn ei holl ogoniant am y tro cyntaf, roeddwn i hefyd yn gwerthfawrogi gogoniannau a harddwch natur gyda brwdfrydedd plentyn. Roedd y parc yn cynnig mwy na digon o symbyliad synhwyraidd yr oedd fy merch yn ei golli yn ei dosbarthiadau babanod. Felly, byddem yn aros i fwytho rhisgl ar y coed ac yn mynd yn agos at y blodau yn eu blagur. Roeddwn yn gweld ac yn sylwi ar bethau am y tro cyntaf – y magnolia, y fedwen arian, y rhosod gwyllt a’r ceirios, y cennin Pedr a’r tiwlip, swn y nant a’r adar. O’r adar! Un o’r seiniau sy’n para drwy’r cyfnod clo. Rydw i’n eu colli’n barod.
Mae gwaith wedi cynyddu er mewn ffordd wahanol iawn.
Tri mis yn ddiweddarach ac rydym yn dechrau dod i arfer â’r normal newydd. Rydw i wedi derbyn na fydd, mae’n debyg, unrhyw berfformiad byw am flwyddyn ac yn methu dirnad sut bydd sioeau yn Ebrill 2021 yn gweithio. Pwy fydd yn dod? A fyddwn ni’n gallu ei wneud i weithio’n ariannol.
Rydw i’n teimlo’n ffodus i fod yn iach a’r bobl o’m cwmpas hefyd. Mae gwaith wedi cynyddu er mewn dull hollol wahanol. Mae’n rhaid i mi feddwl amdanaf fy hun fel artist unigol yn awr mwy nag aelod o fand gan mai dim ond ar ben fy hun y gallaf weithio’n realistig.
Rydw i wedi gallu symud rhywfaint o’m hymarfer ar-lein. Rydw i’n dysgu’n breifat unwaith yr wythnos ac rydw i wedi bod yn cynnig sesiynau un i un ar gyfer Live Music Now dros Zoom i ddau deulu gyda merched bach sy’n dioddef gan barlys yr ymennydd.
Rydw i wedi derbyn comisiwn i weithio gyda band anhygoel o Melbourne o’r enw Bush Gothic, cydweithrediad rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Gwyl Geltaidd Genedlaethol Awstralia. Rydw i hefyd yn cyfansoddi rhywfaint o gerddoriaeth newydd gyda fy mam, y delynores Delyth Jenkins, ar gyfer capel aml-ffydd yn Ysbyty Athrofaol newydd y Grange yn Llanfrechfa, Casnewydd fel rhan o fenter Ty Cerdd. Mae’r ddau brosiect yma’n rhoi cymaint o symbyliad creadigol i mi a’r peth gorau am hyn yw fy mod yn gallu trefnu’r gwaith hwn o gwmpas fy mabi.
Bu cyfnodau lle’r wyf wedi teimlo’n hynod fregus fel cerddor.
Bu cyfnodau lle’r wyf wedi teimlo’n hynod fregus fel cerddor. Fel feiolinydd, rydw i’n crefu am gyfeiliant. Mae sgiliau fy nghymar braidd yn brin yn y maes hwnnw(!) felly nid oes gen i unrhyw un i chwarae gydag ef/ gyda hi. Ni allaf gynnig cyngherddau ar-lein na ffrydio oherwydd pwy fyddai’n awyddus i wrando ar 40 munud o ffidil ar ei phen ei hun? Ar adegau, wrth gyfansoddi, rydw i wedi teimlo fel arlunydd heb gynfas. Mae gen i’r lliwiau – y nodau – ond heblaw am ddarn o bapur erwydd, nid oes gen i unrhyw le i’w gosod. Rydw i am glywed a gwireddu fy ngherddoriaeth gyda cherddorion eraill ac felly rydw i’n cael fy ngorfodi i ddysgu sgiliau newydd. Rydw i yn y broses o ddatblygu stiwdio yn ein cartref fel y gallaf greu recordiadau sain o safon broffesiynol.
Bu cyfnodau hefyd pan fy mod wedi teimlo’n gwbl ddiwerth. Rydw i wedi bod eisiau mynd allan a helpu’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ond nid wyf wedi gallu gadael fy mabi. Ar adegau eraill, rydw i wedi gofyn beth yw pwrpas hyd yn oed bod yn gerddor ond yna byddaf yn cofio’r holl gyfnewidiadau hyfryd hynny a gefais gyda chomisiynwyr Cyllido Torfol Calan a’r teuluoedd rydw i’n gweithio gyda nhw drwy LMN. Hefyd, caf fy atgoffa bod dal i fod rôl bwysig i gerddorion mewn cymdeithas. Tra bod y GIG yn ein cadw ni’n fyw, rhaid i ni roi rheswm i bobl fyw. Mae’r celfyddydau’n hanfodol i’n llesiant a dylid eu cefnogi. Gobeithio, pan allwn ddychwelyd i normal, y bydd pobl yn dod i gefnogi a mwynhau’r celfyddydau eto. Gyda’n gilydd.
—
Gallwch brynu albwm newydd Calan, Kistvaen, yma.
Gallwch fwynhau cyngherddau Angharad i blant bach yn y Gymraeg a’r Saesneg yn Llyfrgell Fideo Cyngherddau am Ddim LMN ar gyfer ysgolion a theuluoedd.
Hyd: 22 mun / Offerynnau: Iwcalili a ffidil / Yn addas ar gyfer plant ifanc
Ymunwch ag Angharad Jenkins o’r grwp gwerin Cymraeg Calan am sesiwn cerddorol o hwyl gyda help ei mwnci Mickey! Mae’n ein cyflwyno i’r iwcalili, yn perfformio dau ddarn ar ei ffidil ac yn dysgu dwy gân afaelgar i ni ymuno â hi. Mae Angharad yn defnyddio ychydig o Makaton i greu sesiwn gyfeillgar, gynhwysol.