-
Mae ein rhaglen ar-lein flaenllaw gyda Hybiau a Gwasanaethau Cerddoriaeth yn rhoi mynediad i ystod o arddulliau cerddorol a pherfformiadau o ansawdd uchel.
-
Cyngherddau deniadol, bywiog ac addysgol – wedi’u ffrydio’n uniongyrchol i ysgolion cynradd ac arbenigol. Addas ar gyfer plant ag anghenion dysgu cymhleth ac ychwanegol.
Mae cyngherddau Dydd Llun cerddorol yn ffordd berffaith i weld a phrofi amrywiaeth o gerddorion proffesiynol o safon fyd-eang Live Music Now, anfon cwestiynau a sylwadau atynt, a hyd yn oed anfon ceisiadau, i gyd o fewn amgylchedd hamddenol ac anffurfiol.
Mae’r gyfres ranbarthol wedi’i rhaglennu i gynnwys cyngherddau gan gerddorion Live Music Now o amrywiaeth o genres a gellir eu cysylltu â’r cwricwlwm enghreifftiol a chynnwys darnau allweddol.
I gofrestru ar gyfer cyfres gyfredol yn eich rhanbarth, cliciwch ar y ddolen ranbarthol isod. I gael eich ysgol neu ganolfan gerddoriaeth i gymryd rhan mewn rhanbarth sydd heb ei restru, e- bostiwch [email protected]
Anglesey | Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gywnedd a Môn |
Gwynedd | Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gywnedd a Môn |
Powys | Powys Music Service |
Cumbria | Cumbria Music Hub |
Essex | Essex Music Education Hub |
Manchester | One Education |
Merseyside | Resonate Music Hub, Merseyside Hub Alliance |
Norfolk & Suffolk | Norfolk and Suffolk Music Hubs |
“Eisteddodd y disgyblion gyda’i gilydd yn mwynhau’r profiad a rennir ac yn arddangos sgiliau cynulleidfa rhagorol (gwrando, cymeradwyo ar ddiwedd darn o gerddoriaeth, clapio ar ôl cael eu hannog). Fe wnaethon nhw fwynhau’n arbennig y gallu i anfon cwestiynau (drwy “sgwrs”) yr ymatebwyd iddynt gan yr artistiaid yn y cyngerdd.”
Sut mae’n gweithio?
- Cyngherddau 45 munud trwy Zoom Webinar neu’ch platfform dewisol
- ‘Trît’ gerddorol yn syth i’ch ystafell ddosbarth
- Cefnogi lles meddwl disgyblion a staff
- Nid oes angen cyfrif Zoom i ymuno â’r sesiwn
- Yn ddiogel i’w gyrchu – dim ond y cerddorion a gwesteiwr Live Music Now sy’n weladwy ar y sgrin
- Dull cost effeithiol ar gyfer Hybiau / Gwasanaethau / Cadwyni Academi Cerddoriaeth
- Mae adborth gan Ysgolion wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda niferoedd cynyddol yn gwrando ar bob cyngerdd.
“Diolch yn fawr iawn, mae gallu mynd i’r cyngherddau cerddorol wedi rhoi rhywbeth i ni edrych ymlaen ato a rhywbeth amrywiol, yn enwedig tra nad ydym yn gallu mynd allan na chael unrhyw ymwelwyr i mewn.”
Am fwy o wybodaeth am weithio gyda Live Music Now i ddatblygu arlwy cerddoriaeth eich ysgol cliciwch yma.