Galw pob ysgol gynradd ac arbenigol yn Ynys Môn!
Tanysgrifiwch i’n cyfres o gyngherddau deniadol, bywiog ac addysgol gyda cherddorion Live Music Now – wedi’u ffrydio’n uniongyrchol i gysur eich neuadd ysgol neu ystafell ddosbarth. Addas ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae ein cyngherddau Dydd Llun Cerddorol yn ddull perffaith i weld a phrofi amrywiaeth o gerddorion proffesiynol o safon fyd-eang o bob cefndir a genre. Gallwch anfon cwestiynau a sylwadau atyn nhw a hyd yn oed anfon ceisiadau, i gyd o fewn amgylchedd hamddenol ac anffurfiol.
Mae dydd Llun cerddorol yn Ynys Môn yn bosibl drwy gyllid gan Wasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru a Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gywnedd a Môn.
Cynhelir cyngherddau yn Gymraeg.
Sut i Logi
I gael mwy o wybodaeth neu i drefnu cyngerdd neu gyfres, gallwch gysylltu â [email protected]
![]() |
Dydd Llun 23 Hydref
|
|
Dydd Llun 11 Rhagfyr
|
![]() |
Dydd Llun 5ed Chwefror
|
![]() |
Dydd Llun 18 Mawrth
|