Pleser gan Live Music Cymru yw gallu cyhoeddi iddyn nhw dderbyn grant o £55540 gan Gyngor y Celfyddydau Cymru yn ail rownd y Gronfa Adfer Diwylliant! Gyda ffocws ar gefnogi llesiant ac ail-hyfforddi 50+ o’r cerddorion proffesiynol ar y cynllun yng Nghymru, derbyniwyd y grant â breichiau agored ar adeg pan oedd artistiaid perfformio o bob celfyddyd wedi dioddef bwlch am dros flwyddyn.
“Bydd y grant hwn yn caniatáu i ni ail fuddsoddi yn y cerddorion anhygoel yr ydym wedi bod yn gweithio gyda nhw ar adeg pan oedd eu hyder a’u sgiliau wedi’u tanseilio go iawn yn ystod y pandemig,” eglurodd Cyfarwyddwr LMN Cymru. “Yn eironig, er bod cerddorion wedi’u galw i gefnogi eraill mewn angen yn ystod y pandemig a’u bod yn parhau i godi ysbryd a rhoi hwb i lesiant cymunedau lleol, maen nhw eu hunain wedi bod yn rhan o grwp bregus yn ystod y cyfnod oherwydd effaith anferth Cofid 19 ar y sector celfyddydau perfformio. Ym mis Mawrth 2020, daeth y gwaith i ben i gerddorion, gan effeithio’n sylweddol ar hyder, hunaniaeth a hunanwerth. Gyda’r grant hwn, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi dangos unwaith eto pa mor sylweddol yw cyfraniad artistiaid yng Nghymru gan osod y gwerth cywir ar y cerddorion rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Maen nhw’n effeithio ar fywydau cynifer bob blwyddyn. Rydyn ni’n falch i allu rhoi rhywbeth yn ôl iddyn nhw a’u helpu i ddychwelyd i fyw yn hyderus.”
Ynghyd ag ystod o gyfleoedd hyfforddiant, llesiant a chyfleoedd addysgu i gerddorion ar y cynllun Live Music Now yng Nghymru, mae’r grant yn cynnig PPE a chysgod i sicrhau perfformiadau diogel mewn amrywiaeth o leoliadau. Bydd cerddorion yn gallu dychwelyd yn ddiogel i berfformiadau byw mewn Cartrefi Gofal, Ysgolion Anghenion Addysgol Arbennig a lleoliadau eraill. Mae’r grant yn cyfateb i’r ardaloedd a ariennir gan grant CRF Cyngor Celfyddydau Lloegr ar gyfer pedair cangen LMN yn Lloegr y DU er mwyn iddyn nhw allu symud ymlaen allan o’r pandemig.
Bu’r cerddor LMN Cymru, Daisy Evans o Bute Clarinet, yn arwain sesiynau sgwrsio llesiant wythnosol ar gyfer cerddorion ar y cynllun yng Nghymru ers mis Hydref. Bydd y grant yn ei galluogi i barhau gyda’r rhain. “Mae cerddorion wedi bod yn hynod ynysig dros y flwyddyn ddiwethaf a thu hwnt,” dywedodd. Mae’n sector cymunedol lle rydym yn arfer chwarae mewn grwpiau, teithio ac ymateb i gynulleidfaoedd byw. Aethpwyd â hwn i gyd oddi wrthyn nhw sy’n effeithio ar greadigrwydd a iechyd meddwl. Mae’r effaith ariannol ynddo’i hun wedi gwneud i nifer o gerddorion ofyn y cwestiwn ‘a allan nhw barhau â’u gyrfaoedd? Rydw i’n ddiolchgar iawn am gymorth LMN a Chyngor Celfyddydau Cymru am fuddsoddi mewn cerddorion mewn ffordd mor fawr ar adeg mor anodd. Bydd y grant hwn yn gwneud gwahaniaeth anferthol i nifer ohonom.”
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o’r pandemig, roedd LMN Cymru’n addasu i sesiynau ar-lein ac yn recordio cyngherddau. O’r herwydd, roedden nhw’n parhau i estyn cerddoriaeth allan ac yn cyflogi cerddorion ar y cynllun pan oedd pob cyfle gwaith arall wedi peidio â bod. Estynnwyd allan at dros 40 o deuluoedd gyda phlant ag anghenion ychwanegol neu heriau iechyd meddwl. Roedd hyn drwy sesiynau cerddoriaeth pwrpasol 8-12 wythnos yn ystod yr Haf diwethaf yn cael eu dilyn gan ystod o gyngherddau stepen drws yn yr awyr agored – rhai sydyn a dros dro – ar hyd y wlad rhwng y ddau gyfnod clo. Yn gyfan gwbl, cynhaliwyd dros 600 sesiwn ar draws Cymru er waethaf cyfyngderau’r pandemig. Mae’r dyfodol yn awr yn edrych yn obeithiol ar gyfer 2021 gan fod LMN Cymru nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu wrth ddychwelyd i gyflwyno cerddoriaeth fyw.