Transforming Communities

Mae Live Music Now Cymru’n parhau i gysylltu ag ysgolion, teuluoedd a chartrefi gofal ar-lein

To read this article in English, click here.

 

Tra bod y pandemig byd-eang yn parhau i herio’r celfyddydau a bywyd cerddoriaeth fyw dros y byd, ymatebodd Live Music Now Cymru drwy ddatblygu cyfleoedd rhithwir, diolch i arian gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Rayne, Cronfa South Hook, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Awards for All.

 

Mae Alis Huws, Telynores Frenhinol Cymru i'w Fawrhydi Tywysog Cymru’n perfformio amrywiaeth o ddarnau ar y thema hud.

O fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2020, roedd cerddorion Live Music Now Cymru’n cynnal 336 sesiwn mewn ysgolion, cartrefi gofal, ysbytai a hosbisau gan gyrraedd mwy na 10,000 o bobl ar draws 18 sir yng Nghymru. Ers dechrau’r cyfnod clo, roedd yn rhaid i LMN Cymru ganslo 49 achlysur personol. Er waetha’r amseroedd anodd hyn, roedd LMN Cymru’n benderfynol o beidio â gadael i’r pandemig ei atal rhag cyrraedd cynulleidfaoedd bregus. Roedd hefyd yn glir o’r dechrau ein bod angen cefnogi ein cerddorion oedd yn dechrau ar eu gyrfaoedd yn ystod y cyfnod hwn gyda nifer ohonyn nhw heb unrhyw incwm o ffynonellau eraill.

Yn gynnar iawn yn y cyfnod clo, cysylltodd LMN â chartrefi gofal ac ysgolion i benderfynu pa gyfraniad cerddorol fyddai’n fwyaf  defnyddiol ac roedden nhw’n gweithio’n gyflym i addasu a chreu:

Yn ychwanegol at y cynnig cenedlaethol, mae LMN Cymru hefyd yn datblygu:

  • prosiect iechyd meddwl digidol o’r enw Soundtrack ynghyd ag adnoddau ar-lein;
  • DVDs ar gyfer cartrefi gofal nad sy’n gallu mynd i’r dudalen llyfrgell fideo ar-lein.

Roedd y 44 cerddor ar y cynllun LMN yng Nghymru’n ymateb yn sydyn i’r galw cynyddol am gynnwys ar-lein gyda brwdfrydedd, hyblygrwydd a chreadigrwydd mawr gan greu rhai cyfleoedd cyffrous iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau digidol a pharhau i weithio o bell. Gyda chefnogaeth y Sefydliad Moondance, roedd cerddorion LMN Cymru’n cyfrannu at y llyfrgelloedd fideo gyda chyfres o bymtheg cyngerdd wedi’u recordio o fewn eu cartrefi. Roedd y rhain yn benodol ar gyfer blynyddoedd cynnar a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau. Yn ychwanegol at hyn, diolch i arian Sefydliad Rayne i bwrpas arall a chronfa South Hook, mae LMN Cymru hefyd wedi gallu creu pymtheg o gyngherddau mwy pwrpasol ar gyfer pobl hyn ynysig o fewn y gymuned a rhai sy’n byw o fewn cartrefi gofal. Roedden ni mor falch o allu darganfod bod rhai cartrefi gofal, ysbytai a hosbisau yn dechrau defnyddio’r adnoddau hyn yn barod i gysylltu a chodi calon eu defnyddwyr gwasanaethau yn ystod yr adegau hynod anodd hyn.

“Mae’n rhaid i mi anfon e-bost atoch i ddiolch. Cawsom fore gwych gydag artistiaid Live Music Now y bore ‘ma. Mae wedi gweithio’n dda ac roedd y trigolion yn mwynhau’n fawr iawn amrywiaeth o wynebau, seiniau, offerynnau a phersonoliaethau newydd. Rydym yn wir ddiolchgar i chi am anfon y recordiadau. Diolch yn fawr iawn am wneud ein diwrnod a gwybod bod llawer iawn mwy i wrando arno hefyd.” Cartref Nyrsio Bethshan, Powys

 

Diolch i arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gallwn wneud bob cyngerdd yn gwbl hygyrch ac ar gael gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg. Hefyd, rydym wedi comisiynu cyngherddau Cymraeg eu hiaith fel y canlynol gan y chwaraewr ffidil Angharad Jenkins o’r grwp gwerin traddodiadol Cymreig Calan

 

“Dychmygwch geisio profi’r byd mewn iaith nad sy’n famiaith i chi a chymaint anoddach y gallai fod os oes gennych anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf gydag anawsterau dysgu’n brin iawn ar y gorau. Credaf yn angerddol y dylai plant gael cerddoriaeth yn eu famiaith. Mae mor bwysig bod adnoddau Cymraeg eu hiaith ar gael ac rydw i mor falch bod LMN yn gallu cynnig y sesiynau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg.”Angharad Jenkins, cerddor o LMN Cymru

 

Cyflwynwyd cyngerdd arbennig iawn gan y pianydd jazz Michael Blanchfield er cof am Peter Walker, cyn- gyflwynydd chwaraeon BBC Sports a gafodd ddiagnosis o Alzheimer’s yn ei 70au hwyr. Ar ôl ei ddiagnosis, ail ddarganfu Mr Walker ei angerdd am glarinet jazz a chafodd gyfle i jamio gyda thriawd jazz Michael mewn cyngerdd dementia-cyfeillgar y llynedd. Yn drist iawn, bu farw Mr. Walker ym mis Ebrill.

Bu’r aelodau offerynnau taro Luke Baxter a Iolo Edwards o ensemble Pedwarawd 19 o LMN Cymru’n brysur hefyd yn gwneud fideo hyfforddiant byr ar gyfer staff cartrefi gofal. Mae hwn yn eu dysgu a’u hannog i ddefnyddio band taro mewn gweithgareddau creu cerddoriaeth a chyfnodau canu gyda’r trigolion. Bydd yr adnodd hwn yn cael ei rannu fel rhan o brosiect Live Music mewn Gofal ond gall hefyd gael ei weld yma.

 

Er bod pob cyngerdd gan Live Music Now ar draws y DU ar gael yn ein llyfrgelloedd fideo, mae LMN Cymru’n creu DVD o’r cyngherddau fel bod pobl hyn heb ryngrwyd yn eu cartrefi yn gallu elwa o gerddoriaeth fyw. Mae LMN Cymru’n gweithio gydag Age Cymru a sefydliadau trydydd sector eraill i helpu’r rhai nad ydynt ar-lein. Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy, cofiwch anfon e-bost at y gangen ar [email protected].

 

“Waw! Wedi mwynhau mas draw, mae’r tensiwn wedi toddi oddi ar fy ysgwyddau! Syniad gwych hefyd, gallu dewis lawr lwytho taflen i ganu. Diolch!” Gwyliwr YouTube

 

    

 

A group of people in a recording studio, singing and clapping hands

Asylum Sounds

Life is sweet when we sing together Life is cool when we dance all night We need kind people to make life better We take

Read More »