Transforming Communities

Mae Lowri Clement yn ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Live Music Now

To read this in English, please click here.

“Rydw i’n falch o gael ymuno â bwrdd LMN gan i mi fod yn ymwneud yn agos iawn â’r elusen ers 2012. Edrychaf ymlaen at ddefnyddio fy sgiliau ariannol i helpu i gefnogi’r sefydliad ymlaen i ddyfodol llewyrchus.”

 

Mae Lowri Clement yn ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr LMN ar ôl ymgymryd â rôl Cadeirydd Pwyllgor Cymru lle bu’n gweithredu fel aelod am nifer o flynyddoedd. Cyn y cyfnod hwn, bu Lowri’n gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru am 8 mlynedd lle’r oedd yn gyfrifol am ddatblygu busnes a monitro portffolio cleientiaid cerddoriaeth ac opera.  Graddiodd o Brifysgol Caerwysg mewn Economeg a Ffrangeg a chymhwysodd fel cyfrifydd yn 2004. Mae ganddi brofiad helaeth yn y sectorau cyhoeddus ac elusennol yng Nghymru ac mae’n gweithio gyda’r arbenigwyr cyfrifwyr elusennau, Andy Nash Cyfrifeg ac Ymgynghoriaeth Cyf., Y Bari lle mae’n cefnogi portffolio elusen a chleientiaid nid-er-elw.  Mae Lowri hefyd yn aelod o bwyllgor cyllid ac archwilio Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Mae Lowri’n rhugl yn y Gymraeg ac yn byw yn ei thref enedigol yng Nghaerdydd. Mae’n mwynhau’r awyr agored ac yn beicio gyda’i theulu ifanc, yn gwneud ioga ac yn rhedeg. Mae hefyd yn delynores broffesiynol ac yn chwarae mewn priodasau a digwyddiadau’n rheolaidd.