Transforming Communities

#ReturnToLive gyda Live Music Now

Yn y De Ddwyrain, bydd yr unawdydd a’r gitarydd Zoe Wren yn arwain y gerddoriaeth ar gyfer pobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartref gofal yn Haringey (llun a dynnwyd cyn Covid)

For English, click here.

Bwrlwm drwm os gwelwch yn dda! Yn ystod wythnos 14 Mehefin, bydd Live Music Now yn dychwelyd yn fyw gan gyflwyno dros 60 cyngerdd ar draws Cymru,, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd ei 250 o gerddorion yn dechrau perfformio mewn ysgolion , cartrefi gofal a chanolfannau cymuned ar draws y gwledydd.

Wrth ail ddechrau ei rhaglen o weithgareddau gwych, dywedodd Janet Fischer, Prif Weithredwr Live Music Now: “Mae’n amser dychwelyd i greu cerddoriaeth fyw eto ar gyfer ein byddin o gerddorion proffesiynol, sy’n gweithio gyda’r rheiny sy’n wynebu amgylchiadau heriol ac anodd. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal, rhai sy’n byw gyda dementia, plant sy’n wynebu rhwystrau anodd a phlant ysgol sydd wedi methu allan ar symbyliadau creadigol hanfodol drwy gydol y pandemig.”

Live Music Now yw un o’r elusennau cerddorol mwyaf sy’n gweithio’n benodol o fewn y maes iechyd a llesiant gan gyflwyno cyfnodau cerddorol ysbrydoledig i alluogi pobl i fyw bywydau cerddorol wrth greu cymunedau a chreadigrwydd.

Mae hefyd yn meithrin gyrfaoedd cannoedd o gerddorion. Drwy raglen hyfforddiant ac adnoddau, bydd Live Music Now hefyd yn cefnogi ei gerddorion proffesiynol wrth iddyn nhw ail afael yn eu gyrfaoedd. Bydd hyn gydag arian gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a Chronfa Adfer Diwylliant Cyngor Celfyddydau Cymru.

Hefyd, dywedodd Janet Fischer: “Dangosodd canlyniadau arolwg ein cerddorion yr effaith dinistriol a gafodd y pandemig ar eu hiechyd meddwl ynghyd ag ar eu gyrfaoedd. Mae’n hanfodol ein bod yn gofalu am eu hiechyd a’u llesiant hefyd – gan ddarparu cymorth hanfodol wrth iddyn nhw deithio o fywyd ynysig i  berfformio. Gwnawn hyn drwy gynnig hyfforddiant bywyd, meddylgarwch a Therapi Ymddygiad Gwybyddol, sgiliau perfformio a chymorth mewn ymarferion i sicrhau eu bod yn hyderus, ar gyfer cyngherddau ac yn ôl ar eu traed ar ôl blwyddyn hynod  ddigalon.”

#Bydd Dychwelyd I Fyw:

  • Yn galluogi’r rhai sy’n wynebu amgylchiadau anfanteisiol a heriol ar draws y DU – o blant mewn ysgolion i bobl hyn mewn cartrefi gofal – i ddychwelyd i’w bywydau cerddorol drwy’r profiad a chyfranogi mewn creu cerddoriaeth fyw, bersonol am y tro cyntaf mewn mwy na 15 mis
  • Yn darparu datblygiad, mentora a chymorth mewn ymarfer i 250 o gerddorion Live Music Now ar draws y DU
  • Yn cynnig cyfnodau o lesiant a chymorth i staff sydd wedi cyflenwi ar linell flaen y pandemig dros y 15 mis diwethaf
  • Diweddu mewn 60+ o gyngherddau yn ystod yr wythnos yn dechrau 14 Mehefin ar draws y DU – o ysgolion a chartrefi gofal i ganolfannau cymuned, ysbytai a chyfnodau cerddorol carreg drws.

Rhai penawdau cyngherddau:

* Yn y Gogledd Orllewin, bydd y Chameleon Quartet yn cyflwyno eu swae aml-offerynnau chwyth i chwarae. Bydd 14 o offerynnau ar y llwyfan yn ystod eu cyngherddau a bydd y grwp bywiog hwn yn diddanu mewn mannau fel Manceinion.

* Yn y Gogledd Ddwyrain, bydd yr unawdydd Rosie Hood o Dovetail Trio, yn dychwelyd yn fyw i’w lle arferol yn Ysgol Riverside yn Goole, i greu caneuon gwerin gwreiddiol gyda disgyblion.

* Yn y De Ddwyrain, bydd y cerddor o Gambia, Jali Bakary Konteh yn lleddfu ysbryd pobl sy’n aros yng nghanolfan frechu Islington gyda’i kora – telyn 22 tant o Orllewin Affrica – drwy chwarae caneuon traddodiadol Gambia ynghyd â rhai o’i gyfansoddiadau ei hun.

* Yn y De Orllewin, bydd y pedwarawd siambr clasurol cyfoes Spindle Ensemble yn hawlio sylw dosbarthiadau Ysgol Claremont Bryste gyda’u synau cerddorol.

* Bydd cynulleidfaoedd Gogledd Iwerddon yn clywed synau unigryw’r pibellau uillea wrth i Conor Lamb a Dierdre Galway berfformio cyngherddau o gerddoriaeth draddodiadol Wyddelig fydd yn gwneud i’r traed symud a chalonnau ganu.

* Ac, yng Nghymru, bydd y Top Brass Trio yn chwythu eu trwmpedau (a mwy)!

 

I gloi, dywedodd Janet Fischer: “Mae’r tîm cyfan ar dân ac yn barod i fynd yn ôl i’r cymunedau i ddiddanu a chydweithio gyda chynulleidfaoedd – o fabanod mewn breichiau i bobl yn eu hwythdegau. Mae’n bryd i ni gyd ail-gysylltu gyda’n bywydau cerddorol. Ymlaen â‘r gerddoriaeth!”

 

Live Music Now

Mae Live Music Now yn meithrin bywydau cerddorol. Rydym yn cydnabod pwer trawsnewidiol cerddoriaeth fel cysylltydd, iaith ac offeryn pwerus ar gyfer newid cymdeithasol.  Mae ein cerddorion hynod safonol yn cysylltu’n gerddorol gyda phobl sy’n wynebu gwaharddiad neu anfanteision. Gwnânt hyn drwy gydweithio i greu sesiynau cerddoriaeth fyw ymgysylltiol, rhyngweithiol ac ar sail tystiolaeth sy’n gwella iechyd a lles yn ystyriol a hefyd iechyd a llesiant. Mae hyn yn atgyfnerthu perthnasoedd ac yn creu effeithiau positif ymhell ar ôl i’r nodyn olaf gael ei chwarae.

Mae Live Music Now yn cyrraedd dros 85,000 o bobl bob blwyddyn ac yn hyfforddi a chyflogi 20 o gerddorion proffesiynol. Gallwch weld ein cerddorion mewn cartrefi gofal, ysbytai, yn ein cymunedau, ysgolion , llyfrgelloedd a hosbisau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac yn yr Alban gyda’n chwaer gerddorol Live Music Now Scotland.

I gael mwy o wybodaeth: Welcome | Live Music Now