Transforming Communities

Dathlwch Dydd Gwyl Dewi gyda Cherddoriaeth Fyw Nawr!

To read this in English, click here.

Mae cerddorion Cymru Live Music Now sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a Llundain wedi bod yn brysur yn recordio a pharatoi cyngherddau i ddathlu Dydd Gwyl Dewi* ac yn rhannu llawenydd cerddoriaeth draddodiadol gyda’r rhai sydd adref yn ogystal ag mewn ysgolion a chartrefi gofal. Y newyddion gorau yw does dim rhaid i chi fod yn Gymry i fwynhau’r dathliadau!

 

I ddathlu Dydd Gwyl Dewi, daeth Patrick Rimes ac Angharad Jenkins, cerddorion gwerin Cymreig o fand Calan at ei gilydd yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu i recordio detholiad o alawon clasurol a gwreiddiol Cymreig ar ffidil, piano a llais gyda chefnogaeth tîm Ratio Studios. Cafwyd fersiynau newydd o Calon Lân a Myfanwy ochr yn ochr ag alawon gwreiddiol fel Brandy Cove a ysgrifennwyd gan Angharad i ddathlu traeth llai enwog yn Abertawe. Ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Gwyliwch y cyngerdd yma: https://youtu.be/4m2JRVPOfUo

Ddydd Mercher 3 Mawrth, bydd y ddeuawd Gymraeg o Lundain, Cainc gyda Llinos Emanuel a Twm Dylan, yn ffrydio Cyngerdd arbennig Dydd Gwyl Dewi fel rhan o gyfres Facebook Live Music in Care. Mae Cainc yn archwilio repertoire traddodiadol Cymru mewn ffordd y gall pawb ei mwynhau. Mae Llinos yn canu a Twm yn cyfeilio ar y gitâr wrth iddyn nhw fynd â’r gynulleidfa trwy draddodiadau llai adnabyddus Cymru a pherlau cerddorol cudd. Byddwch yn barod i ganu, dysgu ychydig o Gymraeg, ond yn bwysicaf oll, cael hwyl! Gwnaethpwyd y cyngerdd hwn yn bosibl gyda chefnogaeth gan City Bridge Trust. Tiwniwch i mewn am 2pm ddydd Mercher 3 Mawrth (neu dal recordiad yn ddiweddarach) yma: https://fb.me/e/5hhUtSBXT

* Dydd Gwyl Dewi, yw diwrnod gwledd nawddsant Cymru ac fe’i dathlir ar y 1af o Fawrth. Gallwch ddarllen mwy am Dewi Sant yma: https://www.visitwales.com/info/history-heritage-and-traditions/st-david-five-facts

We’re Hiring – 50th Anniversary Director

Live Music Now is looking for a 50th Anniversary Director based in London. The post reports to the Chief Executive and works closely with the 50th Anniversary Committee and the Chair of Live Music Now, Sir Vernon Ellis.

Read More »