Transforming Communities

Prosiect Cerddoriaeth wedi’i ariannu yng Nghaerdydd a’r Fro

To read this in English, click here.

Mae Live Music Now Cymru’n chwilio am bobl hyn sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro i gymryd rhan mewn prosiect creu cerddoriaeth newydd wedi’i ariannu, sef Mewn Tiwn!

Mae Mewn Tiwn wedi’i greu’n benodol ar gyfer pobl hyn, yn arbennig y rhai sy’n byw gyda dementia sydd am:

  • Roi cynnig ar chwarae unrhyw offeryn neu sy’n gwybod yn barod sut i chwarae unrhyw offeryn
  • Gymdeithasu a chwarae cerddoriaeth gydag eraill 
  • Geisio gwneud rhywbeth newydd mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar i ddementia

Ysbrydolwyd Mewn Tiwn gan y diweddar Peter Walker (cyflwynydd radio Chwaraeon BBC, cricedwr a cherddor) a ail ddarganfu ei angerdd am glarinét jas ar ôl cael diagnosis Alzheimer.

Yn debyg iawn i Mr Walker, mae nifer o bobl wedi dysgu offeryn yn ystod eu hieuenctid ond wedi esgeuluso chwarae wrth heneiddio oherwydd salwch neu ddiffyg cyfle ac anogaeth. Mae’n bosibl bod eraill yn dymuno dysgu sgil cerddorol newydd ond heb hyder i geisio gwneud hyn. Felly, crëwyd Mewn Tiwn i roi cyfle cymdeithasol, diogel, modern i bobl ar bob lefel i chwarae fel rhan o fand, beth bynnag yr offeryn a’r gallu, tra’n defnyddio llawer iawn o fuddion therapiwtig cerddoriaeth fyw.

Oherwydd y pandemig COVID -19, cafodd y prosiect peilot Mewn Tiwn, oedd i’w gynnal y llynedd, ei ganslo ond, oherwydd y cyfnod clo a’r ynysu parhaus y mae hyn wedi’i achosi, penderfynwyd cynnal Mewn Tiwn yn rhithiol fodd bynnag! I hyrwyddo’r prosiect hwn, byddwn yn cynnal pedwar sesiwn blasu drwy Zoom dan arweiniad cerddorion LMN Iolo Edwards a Luke Baxter ar ddechrau mis Chwefror. Os byddwch chi’n mwynhau’r sesiynau blasu ac yn dymuno cymryd rhan yn y prosiect llawn, gallwch ddilyn 10 gweithdy wythnosol dan arweiniad Iolo a Luke. Bydd y cyfnodau blasu/gweithdai’n canolbwyntio ar greu cerddoriaeth drwy ddefnyddio offerynnau taro fel eu bod mor gynhwysol ag sy’n bosibl i’r rhai sydd â sgiliau cerddorol blaenorol a’r rhai sy’n byw gyda dementia. Os nad oes gennych offerynnau taro, peidiwch â phoeni! Bydd ein cerddorion yn egluro dulliau lle gallwch gymryd rhan drwy ddefnyddio teclynnau ty yn lle hynny. Yn ystod y 10 sesiwn gweithdy, bydd cyfranogwyr yn cyfrannu at greu darn o gerddoriaeth fydd ar gael i’w lawr lwytho ar ddiwedd y prosiect!

Mae cymryd rhan yn y prosiect hwn AM DDIM! Yr unig beth a ddisgwylir os am gymryd rhan yw:

  • Bod yn rhaid i chi fyw yn ardal Caerdydd a’r Fro
  • Bod yn rhaid i chi fod yn hyderus yn gweithio gyda chyfrifiadur, â dolen Zoom eich hun neu rywun fel gwarchodwr/ aelod o’r teulu/ gofalwr/ ffrind i drefnu hyn i chi. Anogir aelodau’r teulu/ gwarchodwyr/ gofalwyr/ ffrindiau i ymuno yn y sesiynau hefyd!

Os hoffech chi gymryd rhan yn y sesiynau blasu, gallwch anfon e-bost at [email protected] i gael mwy o fanylion.

The Cut of Her Cloth

New music inspired by women leaders of Medway, created with local people This two-year project run by Intra Arts and Live Music Now, celebrates ten

Read More »