Mae Live Music Now yn chwilio am Reolwr Prosiect profiadol i ymuno â’n tîm yng Nghymru.
Math o gontract | Contract llawn amser, cyfnod penodol hyd at 28 Gorffennaf 2024 |
Graddfa gyflog | £27,000 – 30,000 y flwyddyn (yn ddibynnol ar brofiad) |
Lleoliad | Bae Caerdydd (swyddfa Live Music Now Cymru) yn bennaf, gyda’r dewis i weithio o gartref yn achlysurol |
Dyddiad cau i wneud cais | 9am dydd Llun 7 Awst 2023 |
Sut i wneud cais |
Cliciwch yma i ddarllen y disgrifiad swydd llawn a manyleb y person yn Saesneg. Cliciwch yma am y Gymraeg.
Uwchlwythwch eich CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf i’r ddolen hon erbyn 9am ddydd Llun 7 Awst 2023. |
Ydych chi’n angerddol am:
- ddatblygu a chefnogi gweithlu o gerddorion proffesiynol;
- datblygu a chefnogi’r gweithlu o gerddorion proffesiynol;
- eirioli dros fuddiannau cerddoriaeth fyw ar ddysgu, datblygu, iechyd a llesiant?
Mae Live Music Now Cymru yn gweithio gyda 73 o gerddorion i gynnal dros 300 o ddigwyddiadau cerddorol a chyngherddau mewn preswylfeydd yn flynyddol ym mhob un o’r 22 sir yng Nghymru. Rydyn ni’n cyflwyno cerddoriaeth fyw a chyfleoedd iechyd creadigol i’r rhai na fyddai, efallai fel arall, yn gallu eu profi. Mae ein gwaith yn ymestyn i ysgolion arbennig a phrif lif, Hybiau Addysg Gerddorol, cartrefi gofal, ysbytai a lleoliadau eraill yn y gymuned. Rydyn ni’n cyflawni hyn drwy brosiectau a rhaglenni llwyddiannus fel: Live Music mewn Gofal, Ysbrydoli a Si Lwli.
Byddwch chi’n rheoli cynllunio a chyflwyno rhaglenni cerddorol i blant mewn addysg gofal cymdeithasol, canolfannau iechyd a chymunedol ar draws Cymru. Bydd y deilydd swydd hwn/hon yn creu perthnasoedd gyda ac yn trefnu hyfforddiant datblygiad personol a chymorth ar gyfer ein cerddorion proffesiynol sydd wedi’u lleoli’n genedlaethol. Byddwch chi’n canfod ac yn sicrhau arian prosiect ar gyfer prosiectau cerddorol a iechyd ar draws Cymru sy’n gweddu i goliau strategol a goliau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Live Music Now Cymru, ac mae’r rôl yn creu cyfleoedd ymestynnol ynghyd â dyrchafiad a datblygiad personol o fewn Live Music Now Cymru ar ôl profi perfformiad (yn ddibynnol ar gyllid).
Rydym yn chwilio am rywun â sgiliau gweladwy, llwyddiannus, a rheoli prosiectau o’r dechrau i’r diwedd gyda dealltwriaeth eang o effeithiau positif a phellgyrhaeddol cerddoriaeth fel offeryn ar gyfer effeithiau cymdeithasol a iechyd mewn cyd-destun Cymru gyfan Mae Jen Abell, rheolwr recriwtio (manylion cyswllt yn y disgrifiad swydd), yn croesawu cyswllt a chwestiynau oddi wrth ymgeiswyr cyn cyflwyno’r cais.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol. Bydd y rhai nad ydynt yn rhugl yn y Gymraeg yn cael eu cefnogi gyda hyfforddiant pellach.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am dydd Llun 7 Awst 2023.
SUT I WNEUD CAIS
Cliciwch yma i ddarllen y disgrifiad swydd llawn a manyleb y person yn Saesneg. Cliciwch yma am y Gymraeg.
Uwchlwythwch eich CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf i’r ddolen hon erbyn 9am ddydd Llun 7 Awst 2023.
MYNEDIAD
Rydym yn awyddus iawn i glywed gan bobl sy’n gweld eu hunain yn cael eu tangynrychioli yn y sector diwylliannol gan gynnwys y rhai sy’n wynebu rhwystrau anablu.
Os hoffech gyflwyno eich cais mewn fformat arall, byddwn yn hapus i ddarparu ar gyfer hwn. Cysylltwch â’r swyddfa ar 020 7759 1803 neu e-bostiwch [email protected] fel y gellir trafod dewisiadau amgen addas.
Bydd pob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol yn cael eu cyfweld. Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael cyfle i drafod eu gofynion mynediad ar gyfer y cyfweliad.