Math o gytundeb | Amser llawn, tymor penodol (12 mis o fis Ionawr 2024) |
Graddfa gyflog | £24,400 – £26,700 (yn ddibynnol ar brofiad) |
Lleoliad | Mewn swyddfa, naill ai yn Llundain neu yng Nghaerdydd |
Dyddiad cau i ymgeisio | 9am ddydd Llun 30 Hydref 2023 |
Sut i ymgeisio |
|
Mae Live Music Now yn awr yn chwilio am Swyddog Codi Arian yn y Gymuned I ymuno â’n tîm canolog. Mae’r swydd hon yn disgwyl i’r deilydd swydd fod yn gweithio yn un o swyddfeydd Live Music Now, naill ai yn Llundain (Somerset House) neu yng Nghaerdydd (Bae Caerdydd).
Cynigir y swydd hon fel rhan o raglen Amser I Ddisgleirio (T2S) Sefydliad Rank. Mae hon yn rhoi cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus, a elwir yn “arweinyddion T2S y cyfle i brofi lleoliad cyflogedig arweinyddiaeth a datblygu mewn elusen am 12 mis.
Os ydych yn ddi-waith ar hyn o bryd, neu’n tan-gyflogedig (yn gweithio o dan eich lefel sgil) neu’n chwilio am eich cam cyntaf i yrfa, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Fel rhan o’r rhaglen T2S, byddwch yn treulio tua 15% o’ch amser ar eich datblygiad personol a phroffesiynol drwy fynychu gweithgareddau’r rhaglen arweinyddiaeth a chynadleddau datblygu drwy gydol y flwyddyn. Hefyd, byddwch chi’n gallu cael hyfforddiant mewnol yn Live Music Now, gan gynnwys ymchwilio i gael grantiau ac ysgrifennu i gael grantiau, stiwardio a rheoli gwirfoddolwyr.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymchwilio i’ch potensial i fod yn arweinydd fel rhan o raglen hir-sefydliedig a llwyddiannus wrth ddysgu sgiliau newydd mewn codi arian a chyfathrebu o fewn elusen.
Gallwch ddarllen mwy am y Rank Foundation a’r rhaglen Amser i Shine yma a chael mynediad i’r canllaw ymgeiswyr yma.
Suy i Ymgeisio
Cliciwch yma i ddarllen y disgrifiad swydd llawn a’r fanyleb bersonol yn Saesneg. Cliciwch yma ar gyfer y Gymraeg.
Cofiwch uwchlwytho CV a llythyr eglurhaol yn Saesneg I’r ddolen hon erbyn 9am dydd Llun 30 Hydref 2023.
Mynediad
Rydym yn awyddus iawn i glywed gan bobl sy’n gweld eu hunain fel rhai sy’n gweld eu hunain fel rhai sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector diwylliannol gan gynnwys y rhai sy’n wynebu rhwystrau anableddau.
Os hoffech gyflwyno eich cais mewn fformat arall, byddem yn hapus i gydsynio â hyn. Gallwch gysylltu â’r swyddfa ar 020 7759 1803 neu anfon e-bost at [email protected] er mwyn gallu trafod dulliau eraill.
Bydd pob ymgeisydd anabl sy’n cyflawni’r meini prawf hanfodol yn cael eu cyfweld. Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fel yn cael cyfle i drafod eu gofynion mynediad ar gyfer y cyfweliad.