Transforming Communities

Cerddoriaeth a Diwylliant mewn Gofal: Cyflawni Anghenion Cerddorol

Sharon Ford, Amgueddfa Cymru – Roedd yn achlysur gwych i fod yn rhan ohono ac roedd pawb y bûm i’n siarad â nhw’n hynod bositif ac wedi cael diwrnod ardderchog.

Ar 29 Medi 2022, cynhaliodd Live Music Now Cymru, mewn partneriaeth gydag Age Cymru ac Amgueddfa Cymru, achlysur ar gyfer cydlynwyr gweithgareddau a gofalwyr mewn cartrefi gofal, ysbytai a chanolfannau dydd ar draws Cymru.

Cynhaliwyd yr achlysur yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan yng Nghaerdydd ac roedd dros 100 o bobl wedi mynychu. Canolbwynt yr achlysur oedd cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad cydlynwyr gweithgareddau ac i ddweud diolch yn fawr iawn drwy gynnig diwrnod llawn hwyl gyda chyfleoedd i ddatblygu gweithlu unigryw, rhoi mynediad i adnoddau a digon o gerddoriaeth fyw.

Prif gyflwynwyr yr achlysur oedd Julie Morgan Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Senedd Cymru a Helen Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.  Cafwyd perfformiadau byw gan un o gerddorion Live Music Now Cymru sef Bethan Semmens. Rhoddodd ddatganiad gwych o Calon Lân a rhannodd ei phrofiadau o weithio mewn lleoliadau gofal iechyd.

Cynhaliwyd sesiwn hyfforddi gan Live Music Now gan yr arbenigwraig Andrea Vogler, ynghyd â thimau o Age Cymru ac Amgueddfa Cymru ar syniadau am weithgareddau creadigol a chasgliadau o atgofion yn ôl eu trefn. Roedd Cymdeithas Darparwyr Gweithgareddau Cenedlaethol yn dangos ffilm fer am ei rhaglen Celfyddydau mewn Cartrefi Gofal a’u hadnoddau.

Fel rhan o’r achlysur, gofynnwyd i gyfranogwyr am y ddarpariaeth gerddorol yn eu lleoliad gofal er mwyn darganfod beth roedden nhw’n ei wneud yn barod ond hefyd sut gallwn ni eu helpu a’u cefnogi i gyflawni mwy.

Roedd cyfranogwyr yn dweud wrthym fod ystod eang o weithgareddau cerddorol creadigol a dyfeisgar yn cael eu gweithredu’n barod:

  • Mai’r gefnogaeth y mae’r dirprwyon yn teimlo fyddai’n fwyaf buddiol, yw rhwydwaith ar gyfer cydlynwyr gweithgareddau a syniadau/adnoddau cynllunio gweithgareddau.
  • Mai’r sgil allweddol y byddai’r dirprwyon yn hoffi ei datblygu fwyaf yw’r hyder i arwain gweithgareddau cerddorol heb gymorth.
  • Mai’r perfformiadau un yn unig a hyfforddiant preswyl 10-12 wythnos yw’r gwasanaethau mwyaf poblogaidd y mae Live Music Now yn eu cynnig ar hyn o bryd.
  • Mai llai na £100 y mis sydd gan y mwyafrif o leoliadau gofal iechyd ar gyfer gweithgareddau. Mae bron i hanner lleoliadau gofal iechyd yn cynnal 10+ o weithgareddau bob mis gyda’r gyllideb isel iawn hon. Bod llawer o leoliadau gofal iechyd yn cynnal achlysuron codi arian i gefnogi gweithgareddau rheolaidd.
  • Mai gostyngiad yn nhrosiant staff sy’n flaenoriaeth uchel i leoliadau gofal iechyd gydag amlygiad i weithgareddau creadigol newydd a gwell asiantaeth a llais i ddefnyddwyr y gwasanaeth, yn ail agos.

Mae’r darganfyddiadau hyn yn hanfodol oherwydd eu bod yn alinio gydag effaith a deilliannau disgwyliedig hyfforddiant preswyl Live Music Now mewn Gofal i ddatblygiad gweithlu, gan roi tystiolaeth bellach bod y rhaglen waith hon yn angenrheidiol.

Yn ychwanegol at hyn, gan gadarnhau bod cyllidebau ar gyfer gweithgareddau’n hynod gyfyng, er nad yw’n syndod, mae’n achos pryder. Mae’r gwaith ymchwil hwn yn bendant yn amlygu sut mae’r argyfwng costau byw a system gofal iechyd sy’n gwegian yn affeithio ar ddefnyddwyr gwasanaethau a’r staff sy’n gofalu amdanyn nhw. Mae’n dangos bod cael y gallu i ddarparu rhaglenni a hyfforddiant cerddorol wedi’u hariannu’n llawn yn llawer mwy pwysig nag erioed.  Yn drist iawn, rhaid i Live Music Now godi arian ar gyfer pob prosiect unigol ar gyfer pob ardal unigol. I wella ein llwyddiant codi arian, mae’n rhaid paratoi gwaith i gael tystiolaeth o lwyddiant cymdeithasol ac economegol y buddsoddiad y mae ymyriadau Live Music Now yn eu cynnig.

I symud ymlaen, bydd Live Music Now Cymru yn defnyddio’r adborth hwn i sicrhau datblygiad strategol a cheisiadau am arian. Byddwn yn edrych yn benodol ar gynyddu codi arian i sicrhau hyfforddiant preswyl gan Live Music Now mewn cynifer o gartrefi gofal ag sy’n bosibl. Byddwn yn dechrau gyda’r rhai ddangosodd eu cefnogaeth i’r elusen drwy fynychu ein hachlysur Cerddoriaeth a Diwylliant mewn Gofal gan ymateb i anghenion a ddangoswyd yn yr achlysur hwnnw. Yn y cyfamser, ein nod yw rhannu cynifer o adnoddau am ddim gyda chydlynwyr gweithgareddau ag sy’n bosibl!

Lawrlwythwch ganfyddiadau o arolwg y ddarpariaeth gerddorol mewn lleoliadau gofal yma yn Saesneg ac yma yn Gymraeg.