Transforming Communities

Pleidleisio Dros Hwiangerdd I Brosiectau’r Bobl 2023!

Dewiswyd PROSIECT HWIANGERDD Live Music Now Cymru ar gyfer pleidlais gyhoeddus ‘Prosiectau’r Bobl’, gyda chyfle i ennill £70,000 i gyflawni gwaith pellach ledled Cymru gyda rhieni newydd a rhieni sy’n disgwyl a’u teuluoedd.

PLEIDLEISIWCH NAWR (yn fyw o 15 Mai*)

Mae Live Music Now wedi bod yn cyflawni Prosiectau Hwiangerdd (yn seiliedig ar y model a ddatblygwyd gan Neuadd Carnegie, Efrog Newydd) ers 2023 yn ne Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. Mae’r prosiect yn paru merched beichiog, mamau a thadau newydd, a gofalwyr sy’n delio â heriau iechyd meddwl â cherddorion proffesiynol. Gyda’i gilydd, maen nhw’n gweithio dros gyfres o sesiynau i ysgrifennu a pherfformio hwiangerddi personol i’w babanod i gefnogi iechyd meddwl, datblygiad mewn plentyndod a pherthnasau teuluoedd.

Bydd Live Music Now Cymru ar ITV Cymru ac yn cystadlu’n erbyn pedwar sefydliad elusennol arall dros bleidlais y cyhoedd i ennill £70,000 tuag at ragor o Brosiectau Hwiangerdd yn ne Cymru.

Ffilmiodd ITV Cymru weithdy Hwiangerdd ar 8 Mawrth 2023 a chyfwelodd â’r cyfrannwr Hwiangerdd a Phencampwr Hwiangerdd Gwirfoddol Kirsty Price, cerddor Live Music Now Cymru Bethan Semmens a’r Gweithiwr Iechyd BIP Bae Abertawe Jo Edwards. Caiff ei ddarlledu ar ITV Cymru rhwng 15 a 26 Mai 2023 yn ogystal ag ar wefan Prosiectau’r Bobl.

Mae’r Prosiect Hwiangerdd yn helpu teuluoedd i feithrin cysylltiadau cryfach â’u babanod, yn magu hyder rhieni, yn gallu gwella iechyd meddwl amenedigol ac yn adeiladu rhwydweithiau o ffrindiau i leihau arwahanrwydd cymdeithasol. Trwy ysgrifennu llythyrau a thrafod gyda’u partneriaid, y teulu ehangach, cerddorion Live Music Now a gweithwyr iechyd mae’r cyfranogwyr wedyn yn mynegi eu cariad, eu gobeithion a’u breuddwydion am eu plentyn trwy greu hwiangerdd. Gallwch wrando ar yr holl hwiangerddi pwerus a gynhyrchwyd hyd yma.

Byddai ennill y wobr yn galluogi lansio pum prosiect newydd a fyddai o fudd i 40 o deuluoedd yn ne Cymru, drwy atgyfeiriad gan ein partneriaid Dechrau’n Deg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae angen eich pleidlais CHI arnom i’n helpu i ennill!!

Gall pleidleisiau ddod o unrhyw ran o’r DU, felly rhannwch y ddolen i bleidleisio ac anogwch gynifer o bobl â phosib i bleidleisio fel y gallwn sicrhau’r arian hwn.

Sut y gallwch helpu:

  1. Pleidleisio dros brosiect hwiangerdd heddiw drwy’r ddolen hon* cyn hanner dydd ar 26 Mai.
  2. Rhannu’r ddolen i bleidleisio hon â chynifer o bobl â phosib drwy e-bost, y cyfryngau cymdeithasol ac mewn person.
  3. Ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol a hoffi a rhannu ein negeseuon i’n helpu i gyrraedd cynifer o bobl â phosib.

*Dolen yn fyw o 15/5/23. Dewch i’r dudalen hon eto i bleidleisio!

Cofio Helen Mahoney

Gyda thristwch mawr rydym yn rhannu’r newyddion am farwolaeth ein cyn-gydweithiwr annwyl Helen Mahoney. Ymunodd Helen â Live Music Now yn 2014 fel Cyfarwyddwr y

Read More »