Transforming Communities

Cyflwyno Live Music Now Cymru

Ar 1 Chwefror 2023 rydym yn croesawu Jennifer Abell fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol newydd Live Music Now Cymru.

Mae Jen yn ymuno â ni o Cymuned Canolfan Datblygu De Glan-yr-afon, elusen ganolog yng Nghaerdydd sy’n ymroddedig i gynyddu cydraddoldeb cymdeithasol a lleihau tlodi, lle bu’n Gyfarwyddwr, a chyn hynny roedd yn Rheolwr Codi Arian Cymunedol a Rheolwr Ardal ar gyfer Royal National Lifeboat Institution (RNLI) ac Arweinydd Cymorth Cyfoedion Cymru ar gyfer Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth.

Bydd yn arwaintîm cenedlaethol wedi’i ailstrwythuro yng Nghymru sy’n cynnwys yr Uwch Reolwyr Prosiect sydd newydd eu penodi Beth Caudle (Plant a Phobl Ifanc) a Heather Chandler (Iechyd a Gofal Cymdeithasol Oedolion), gyda chymorth gan y Cydlynydd Prosiectau newydd, Laura Wood, Lullaby Project Manager Jay Mendivil y Musical Mondays Manager Philip May.

Mae Live Music Now Cymru wedi bod yn gweithio i sicrhau newid sylweddol a pharhaol i bobl Cymru a’r DU. Mae gwreiddiau nifer o’n rhaglenni yng Nghymru a gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac Adolygiad Buddsoddiad Cyngor Celfyddydau Cymru, mae hyn yn debygol o barhau wrth i ni uno gyda phartneriaid sy’n edrych i’r dyfodol ac yn arloesol.

Gydag apwyntiad Jen, rydym yn edrych ymlaen at gynyddu ein heffaith yng Ngogledd a Gorllewin Cymru a dyfnhau ein Gwaith gyda’r cymunedau hynny rydym yn eu gwasanaethu ar hyn o bryd. Mae prif ffrydio iaith, gwella iechyd meddwl, delio ag anghyfartaleddau iechyd, ymchwilio i’n hetifeddiaeth a chefnogi ein cymunedau ar flaen ein Bwriad Strategol. Hefyd, mae ein cerddorion a’n tîm o staff yn gyffrous i chwarae eu rhan wrth gyflawni’r gwaith hanfodol hwn.

Wrth ymuno â Live Music Now Cymru, dywed Jen:

“Ar adeg o her economaidd a chymdeithasol difrifol i nifer sy’n byw yng Nghymru, mae Live Music Now Cymru yn fflam o obaith. Mae cyffyrddiadau cerddorol yn drysor o fuddiannau; cyswllt cymdeithasol, cynyddu lefelau ffocws a datblygu sgiliau creadigol a chymdeithasol.
Rydw i’n barod wedi cael fy synnu gan y cyfraniadau y mae Live Music Now Cymru yn eu gwneud i ffabrig cerddorol a diwylliannol Cymru; cyflogi a hyfforddi mwy na 40 ensemble yng Nghymru bob blwyddyn, darparu profiadau cerddorol i bobl ym mhob sir yng Nghymru a’r llynedd, darparu cynhadledd fflaglong yn Amgueddfa Sain Ffagan ar gyfer ymarferwyr creadigol sy’n gweithio gyda phobl hŷn.
Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda thîm Cymru sydd wedi’i ail-strwythuro, cyfuniad o lygaid newydd a dewrion profiadol Live Music Now. Gyda’n gilydd byddwn yn gweithio i gynyddu cyfleoedd i bobl sy’n byw yng Nghymru i gael profiadau cerddorol, ystyrlon.
Gadawaf chi gyda’r dyfyniad hwn o Plato, portread o’m profiad personol i o gerddoriaeth a nodyn i’ch atgoffa i wrando ar eich hoff gân heddiw:: ‘Music gives soul to the universe, and wings to the mind.

Ar ran Bwrdd Live Music Now, roedd un o Ymddiriedolwyr Cymru Lowri Clement yn croesawu Jen:

“Rydym yn hynod falch o benodiad Jen ac edrychwn ymlaen at ei gweld yn dechrau yn ei rôl. Mae gan Jen gyfoeth o sgiliau datblygu busnes ac edrychwn ymlaen at ei gweld yn arwain Live Music Now Cymru i mewn i ddyfodol newydd a llewyrchus fydd yn ein gweld yn parhau i weithio ar draws bob ardal yng Nghymru. Bydd Jen yn arwain tîm Cymru sydd wedi’i ail-strwythuro gan weithio ochr yn ochr ag uwch reolwyr prosiectau sydd newydd eu penodi, Heather Chandler a Beth Caudle.
Gyda’r rôl strategol well hon, bydd Jen yn rhan o dîm uwch reolwyr y sefydliad yn y DU gan sicrhau partneriaeth waith agosach ar draws y sefydliad yn gyffredinol.
Bydd penodiad Jen yn creu cyfnod newydd cyffrous i Live Music Now Cymru ac edrychwn ymlaen at ddyfodol newydd, cyffrous i’r elusen yng Nghymru.”