Rydyn ni’n Cyflogi! Mae Live Music Now yn chwilio am Gydlynydd Prosiect, De Orllewin a Chymru i ymuno â’n tîm.
Math o gontract | Llawn amser, parhaol |
Graddfa gyflog | £ 20,000 – £26,000 y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad/cymhwysedd) |
Lleoliad |
Caerdydd (swyddfa Live Music Now)
|
Dyddiad cau i wneud cais |
9am on Monday 7 th November |
Mae’r swydd hon wedi’i lleoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd sy’n cefnogi ein canghennau yn y De-orllewin a Chymru ar gymhareb 40:60.
Byddwch yn cynorthwyo gyda rheoli prosiectau a digwyddiadau gan gynnwys cysylltu â lleoliadau a cherddorion, a byddwch yn gyfrifol am fewnbynnu data a gweinyddu swyddfa. Byddwch hefyd yn ymwneud â marchnata a chyfathrebu, codi arian, cyllid a chasglu adborth.
Mae’r rôl yn bwynt mynediad gwych i rywun sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa ym maes rheoli’r celfyddydau.
Mae lefel o hyfedredd yn y Gymraeg yn ddymunol. Bydd y rhai nad ydynt yn rhugl yn y Gymraeg yn cael eu cefnogi mewn hyfforddiant pellach.
SUT I WNEUD CAIS
Cliciwch yma i ddarllen y disgrifiad swydd llawn a manyleb y person yn Saesneg. Cliciwch yma am y Gymraeg.
Uwchlwythwch CV a llythyr eglurhaol yn Saesneg i’r ddolen hon erbyn 9am ddydd Llun 7 Tachwedd.
MYNEDIAD
Rydym yn awyddus iawn i glywed gan bobl sy’n gweld eu hunain yn cael eu tangynrychioli yn y sector diwylliannol gan gynnwys y rhai sy’n wynebu rhwystrau anablu.
Os hoffech gyflwyno eich cais mewn fformat arall, byddwn yn hapus i ddarparu ar gyfer hwn. Cysylltwch â’r swyddfa ar 020 7759 1803 neu e-bostiwch [email protected] fel y gellir trafod dewisiadau amgen addas.
Bydd pob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol yn cael eu cyfweld. Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael cyfle i drafod eu gofynion mynediad ar gyfer y cyfweliad.