Cafodd PROSIECT HWIANGERDD Live Music Now Cymru ddyfarniad o £69,975 ar ôl pleidlais gyhoeddus ‘Prosiectau’r Bobl’ y Loteri Genedlaethol, fel y gallwn gyflawni gwaith pellach ledled Cymru gyda rhieni newydd a rhieni sy’n disgwyl a’u teuluoedd.
Mae Live Music Now wedi bod yn cyflawni Prosiect Hwiangerdd (yn seiliedig ar y model a ddatblygwyd gan Neuadd Carnegie, Efrog Newydd) ers 2021 yn ne Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.
Mae’r Prosiect Hwiangerdd yn helpu teuluoedd i feithrin cysylltiadau cryfach â’u babanod, yn magu hyder rhieni, yn gallu gwella iechyd meddwl amenedigol ac yn adeiladu rhwydweithiau o ffrindiau i leihau arwahanrwydd cymdeithasol. Trwy ysgrifennu llythyrau a thrafod gyda’u partneriaid, y teulu ehangach, cerddorion Live Music Now a gweithwyr iechyd mae’r cyfranogwyr wedyn yn mynegi eu cariad, eu gobeithion a’u breuddwydion am eu plentyn trwy greu hwiangerdd. Gallwch wrando ar bob un o’r hwiangerddi pwerus a grëwyd hyd yma.
Cafodd Live Music Now Cymru sylw ddwywaith ar ITV Cymru ym Mai 2023 a chystadlodd yn erbyn pedwar sefydliad elusennol arall am bleidlais y cyhoedd.
Drwy ennill yr arian byddwn yn lansio pum prosiect newydd a fydd o fudd i 40 o deuluoedd yn ne Cymru, drwy atgyfeiriad gan ein partneriaid Dechrau’n Deg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Diolch i bawb a bleidleisiodd!