Gan Angharad Jenkins, cerddor Live Music Now Cymru
Mae ysgrifenwyr caneuon di-ri wedi cymharu ysgrifennu caneuon â therapi. Ewch draw i Google a bydd pob math o ddyfyniadau amrywiol ar y thema. Fel cerddor a mam i ddau blentyn bach, gallaf hefyd gadarnhau effeithiau cathartig ysgrifennu caneuon. Heb fod yn or-ddramatig, mae ysgrifennu caneuon wedi fy achub, a hebddo gallai fy iechyd meddwl fod wedi mynd o chwith yn ystod y blynyddoedd anodd hyn wedi rhoi genedigaeth. A dechreuodd y cyfan â hwiangerdd. Gadewch i mi egluro.
Mae pawb yn gwybod beth yw nod hwiangerdd. Bydd nifer ohonom, os ydym yn lwcus, yn cofio eu cael wedi’u canu i ni’n blant, a gallwn fwy na thebyg gofio rhywfaint o’n repertoire cerddorol cynharaf. Hyd yn oed heb fod wedi canu’r caneuon hynny ers blynyddoedd lawer, mae’n debygol bod y melodïau a’r geiriau syml yn sownd yng nghefn ein meddwl, yn aros am adeg ac am reswm i ddod yn ôl i’r wyneb.
Ond, nid nes bod yn fam y gwnes i wir ddeall pŵer hwiangerdd.
Dysgais yn gyflym iawn, yn niwrnodau ac wythnosau cyntaf bywyd fy merch, taw’r unig ffordd o gyfathrebu â babi yw canu iddo. Byddwn yn canu i leddfu ac yn canu i ddiddanu. Trodd bywyd yn un gân hir, ac roedd gan bob gweithgaredd ei gân.
Dechreuais drwy ddefnyddio melodïau adnabyddus. Roeddwn yn newid geiriau o’m hoff ganeuon pop a gwerin i enw fy merch (e.e. daeth ‘Lleucu Llwyd’ yn ‘Tanwen Haf’) a daeth alawon Frère Jacques a Twinkle Twinkle Little Star yn felodïau i adrodd beth oedd i ddod yn y dydd. Canais bob dydd, a dros amser sylwais ar fy llais yn gwella.
Nawr, er gwaethaf bod yn gerddor, dwi erioed wedi gweld fy hun fel canwr da. Doeddwn i erioed yn hyderus, a’r hoelen olaf yn yr arch oedd sylw gwatwarus gan arholwr cerddoriaeth ABRSM pan o’n i’n fy arddegau cynnar. Fy mhrif offeryn ers hynny oedd y feiolin, a dwi wedi mwynhau gyrfa 15 mlynedd yn bennaf yn chwarae offeryn cerddorol.
Wrth ddod yn fam am y tro cyntaf, ro’n i’n rhwystredig nad oeddwn yn gallu gwneud pethau â’m dwylo mwyach. Allwn i ddim chwarae’r feiolin na chreu cerddoriaeth fel y gwnes o’r blaen, yn syml am fod angen imi gario babi’n fy mreichiau drwy’r dydd. Aeth y feiolin o’r neilltu, felly dechreuais ganu fel ffordd o gysylltu â’m merch ac i fy niddanu fy hun. Ac felly – fel dysgu offeryn – gwnaeth yr ymarfer bob dydd hwn wella a chryfhau fy llais a’m hystod. Ond roedd hyn yn debycach i oroesi nac ymarfer!
Dechrau’r daith gyfansoddi
Dros amser, blinais ar yr un hen ganeuon. Roedd angen rhywbeth arall arnaf ac i fod yn greadigol eto. Ac felly’n naturiol ddigon, bron fel drwy ddamwain, dechreuais ysgrifennu caneuon fel ffordd o ddelio ag undonedd bywyd â phlentyn ifanc.
Ar y pwynt hwn, mae’n ddifyr nodi yr oeddwn yn magu fy mhlentyn cyntaf yn ystod y cyfnod clo, pan nad oedd mathau eraill o gymorth na rhyngweithio wyneb yn wyneb ar gael. Yn sicr, nid oedd grwpiau babanod, ac felly llenwodd canu ac ysgrifennu caneuon y bwlch hwnnw. Mewn ffordd, er yr oedd yn adeg anodd a rhyfedd i ni gyd, dwi’n ddiolchgar y cefais y cyfle i ddilyn y trywydd hwnnw, achos ar ôl dechrau doedd dim stop arna’ i.
Dywedodd yr ysgrifennwr caneuon a chyd-gerddor Live Music Now Maz O’Connorwrthyf unwaith bod ysgrifennu cân fel agor tap rhydlyd. Mae’n cymryd amser i’w agor, ond ar ôl hynny mae’r caneuon yn llifo’n gyflym. A dyna’n union beth ddigwyddodd i mi.
Anfonais gwpl at fy ffrind, yr aml-offerynnwr Aeddan Williams, a’m helpodd i weithio ar y trefniadau. Fe’m hanogodd i ddal ati i ysgrifennu, ac o fewn 6 mis roedd gen i 17 cân. Roedd yn adeg arbennig o gynhyrchiol a hapus. Roeddwn i’n gwneud rhywbeth ro’n i’n hiraethu am ei wneud ers cyhyd, ond allwn i ddim ffeindio ffordd mewn. A’m hysbrydoliaeth? Fy merch a’m profiadau fel mam. Roedd yn ddechrau cyfnod o weithio allan sut y gallai bywyd fel mam a cherddor fod. Roedd angen i mi eu recordio, ac felly, gyda therfyn amser cwbl bendant, sef y dyddiad geni disgwyliedig fy mab ym mis Mawrth 2022, fe wnaethon ni fwrw ati.
Gweithio ar Brosiect Hwiangerdd
Yn 2021, wrth imi fentro i fyd ysgrifennu caneuon, cefais wahoddiad gan Live Music Now i fynychu cwrs hyfforddi ar-lein gydag Emily Eagen, artist a chyfansoddwr sy’n addysgu, a oedd yn gweithio gyda Carnegie Hall’s Lullaby Project. Allai hi ddim bod wedi digwydd ar adeg well. Eglurodd yr hyfforddiant wrthyf y pethau ro’n i wedi’u deall yn reddfol fel mam am fuddion hwiangerddi. Ro’n i’n mwynhau gwrando ar bob astudiaeth achos, atgof a hwiangerdd. Bron y teimlais i’n rhan o’r ymchwil. Eglurodd yr hyfforddiant wrthyf y pethau ro’n i wedi’u deall yn reddfol fel mam am fuddion hwiangerddi.
Ro’n i’n gwybod bod canu’n teimlo’n dda i mi a’m babi, ac ro’n i am i eraill deimlo’r un buddion. A gyda’r hyfforddiant hwn, teimlais mewn lle da i ddechrau cynnal Prosiectau Hwiangerdd yng Nghymru ar ran Live Music Now.
Erbyn hyn, rwyf wedi cyflawni tri phrosiect ac am ddechrau ar y pedwerydd. Mae’r deilliannau a’r cysylltiadau o’r prosiectau hyn wedi bod yn ddwfn ac yn werth chweil.
Mae’r broses o ysgrifennu cân yn dechrau drwy ysgrifennu llythyr at y babi, ac o’r llythyrau hynny daw’r negeseuon mwyaf hyfryd, ystyrlon, personol ac o’r galon. Waeth faint o weithiau rydyn ni’n gwneud y prosiect hwn, a faint o famau rydyn ni’n gweithio gyda nhw, mae’r teimladau’n aml yn debyg iawn, ond daeth i’r amlwg bod mil o ffyrdd gwahanol o’u cyfleu. Mae gan bob mam ei llais ei hun, ac mae’n hyfryd gweld y hwiangerddi hyn yn dod yn fyw.
Rhyddhau’r Albwm Cyntaf
Wrth i’r erthygl hon gael ei chyhoeddi, rwy’n dod allan o’m hail gyfnod mamolaeth i sain fy senglau cyntaf sy’n cael eu rhyddhau i’r byd. Mae wedi bod yn dod ers amser maith, ond rwy’n teimlo rhyddhad a chyffro y bydda i, o’r diwedd, yn rhannu fy ngherddoriaeth. Maen nhw mor wahanol i unrhyw beth rwyf wedi’i greu o’r blaen. Ond dwi wedi dysgu bod bywyd yn rhy fyr i beidio mentro. Mae gan bawb lais. Ac os – drwy ryddhau’r albwm hwn a gweithio arLive Music Now’s Lullaby Project – y gallaf gysylltu â mamau eraill a’u helpu i ddatgloi pŵer hwiangerddi, yna byddwn wedi gwneud rhywbeth da yn y byd.
Caiff albwm cyntaf Angharad, Motherland, ei ryddhau yn Hydref 2023 ar Libertino Records. Gallwch ddilyn ei thaith ar ei llwyfannau cyfryngau cymdeithasol @thisisangharad a gwrando ar ei cherddoriaeth yma: https://linktr.ee/thisisangharad